Miriam Connick

Obituary

Miriam Connick

Passed away: 28-05-2026

Miriam Connick

Passed away: 28-05-2026

Yn dawel, ond gyda thristwch mawr, ar ddydd Iau 28ain o Fai yn Ysbyty Castell Nedd, Port Talbot, hunodd Miriam o Ger yr Afon, Gwaun Cae Gurwen. 

Priod annwyl y diweddar Wynford, mam gariadus Jeffrey, mam-yng-nghyfraith barchus Joanna, mamgu dyner a chefnogol Ffion a Mared, chwaer agos y diweddar Eiry ac Averil a modryb hoffus Delyth, Gethin a Colin. 

Angladd ar ddydd Iau 18fed o Fehefin, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli am 2.00 y prynhawn. 

Blodau’r teulu’n unig. Derbynnir cyfraniadau os dymunir i gefnogi Wardiau C a D Ysbyty Castell Nedd Port Talbot drwy law Evan Rees a Hywel Griffiths (sieciau yn daladwy i Griffiths Bwtrimawr), Trefnwyr Angladdau, 98 Heol Cae Gurwen, Gwaun Cae Gurwen, Rhydaman SA18 1PD.

Evan Rees & Sons - 01269 822206

Tributes

Christine Milner

Mor fli’n I glywed am Miriam a cofio cynnes I chi fel teulu x