Joanna Ann Thomas

Obituary

Joanna Ann Thomas

Passed away: 04-12-2025

Joanna Ann Thomas

Passed away: 04-12-2025

Yn dawel ddydd Iau 4ydd o Ragfyr, yn Ysbyty Dyffryn Aman, hunodd Ann o Garnswllt. 

Gwraig annwyl y diweddar Phil, mam gariadus Gethin a Rhydian, mam yng nghyfraith barchus Sam a’r ddiweddar Claire, mamgu addfwyn Arwel, Angharad a Seren, chwaer dyner Vyron a’r diweddar Gareth a Lynda. Gwelir ei cholled yn fawr gan ei theulu a’i ffrindiau oll. 

Gwasanaeth yng Nghapel Noddfa Garnswllt ddydd Mawrth 23ain o Ragfyr am 12.00 canol ddydd a chladdedigaeth oddi yno ym Mynwent Tref Rhydaman. Estynnir croeso i chi ymuno â’r teulu am luniaeth ysgafn yn Blas, Rhydaman  wedi’r gwasanaethau. 

Blodau’r teulu yn unig. Cyfraniadau, os dymunir tuag at ‘Ffrindiau Ysbyty Dyffryn Aman’ (Amman Valley Hospital League of Friends)  drwy law y Trefnwyr Angladdau, Hywel Griffiths a’i Fab, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE neu drwy’r ddolen Just Giving isod.

Hywel Griffiths Bwtrimawr & Son - 01269 593637

www.justgiving.com/crowdfunding/joanna-ann-thomas

Tributes