Elizabeth Tamara Puw

Obituary

Elizabeth Tamara Puw

Passed away: 07-09-2025

Elizabeth Tamara Puw

Passed away: 07-09-2025

Yn frawychus o sydyn ddydd Sul, 7fed o Fedi yn Ysbyty Treforys, Tamara o Heol y Barri, Brynaman. 

Priod gariadus, dyner a ffyddlon y diweddar Cen, mam annwyl a chefnogol Dafydd, ffrind arbennig Jo-Ann, mamgu balch a chyfaill tirion e’i ŵyrion bach Iwan, Gruff, Eben a Mabon a chwaer yng nghyfraith agos Morlais a Wendy.

Angladd ddydd Mercher, 1af o Hydref, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Hermon, Brynaman am 11.00 y bore. Cleddir ym mynwent y capel. Dim blodau os gwelwch yn dda. Rhoddion os dymunir, tuag at ‘Noah’s Ark’ (Elusen Ysbyty Plant Cymru) drwy law Evan Rees a Hywel Griffiths, Trefnwyr Angladdau, 98 Heol Cae Gurwen, Gwaun Cae Gurwen, Rhydaman SA18 1PD neu drwy’r JustGiving linc isod.

Evan Rees & Sons - 01269 822206

Tributes

SHARON (y bwsis)

Flin iawn i glywed y newyddion trist am Tamara. Rhoed Tamara yn fenyw a athrawes neis iawn. Roedd hi yn garedig i'r plant yn yr ysgol ac yn capel Hermon. O ni fel teulu yn meddwl y byd o Tamara a wedi cael lot o sport gyda hi pryd oen ni mynd ar trips. Meddwl am dano Dafydd a'i teulu yn yr amser caled hyn. Ma colli Mam yn anodd iawn.