menu-to-close-2

HYWEL GRIFFITHS A'I FEIBION, BETWS

FUNERAL DIRECTORS AMMANFORD & SURROUNDING VILLAGES

Ein hamcan yw darparu gwasanaeth proffesiynnol, effeithlon ac urddasol i gefnogi ac i gynnal ac arwain teuluoedd ar adegau o golled a thristwch.

Our aim at all times is to provide an efficient, professional and dignified service to support and guide you in your time of need.

Contact us
Bwtrimawr-Tree-Logo180
Bwtrimawr-Tree-Logo180

Oes anwylyd wedi darfod? Gadewch i ni helpu : Has a loved one passed away? Let us help.

To receive our quickest response, please call us.

We will be there to answer your call and get you the assistance you need when you need it.

Tel: 01269 593637 / 01269 822179 / 01269 822206 / 01792 885626

(24 hours a day 365 days a year)

Pwy yw Hywel Griffiths a'i Feibion / Who are Hywel Griffiths and Sons?

Sefydlwyd y busnes teuluol hwn yn 1875. Ers ei ddechreuad fel cwmni o adeiladwyr, seiri ac ymgymerwyr i’r pentref mae’r busnes wedi tyfu i fod yn ymgymerwyr angladdau parchus yn y gymuned. Mae’r busnes yn cynnwys Hywel Griffiths a’i Feibion, Keith Morgan a’i Feibion, Evan Rees a’i Feibion a Douglas Davies, ac mae’n darparu gwasanaeth mewn ffordd ddwy-ieithog a phersonol.

The family business has been established since 1875. Since its beginnings as builders, joiners and village undertakers, the business has developed as traditional funeral directors who are well respected in the community. The business incorporates Hywel Griffiths and Sons, Keith Morgan and Sons, Evan Rees and Sons and Douglas Davies, and provides a personal bilingual service.

HYWEL GRIFFITHS & SONS - BWTRIMAWR, BETWS

Untitled design (2)

Betws

Cwmni Griffiths Bwtrimawr
39 Betws Road
Ammanford
SA18 2HE

Tel: 01269 593637 / 01269 822179 / 01269 822206 / 01792 885626



Amdanom Ni / About Us

Pan symudodd John ac Elizabeth Griffiths i'r ardal ger Rhydaman o Langynnwr ger Caerfyrddin, roedd Dyffryn Aman bryd hwnnw yn datblygu'n gyflym gan ei fod yng nghanol y meusydd glo. Yma yn y Betws felly fe sefydlodd eu mab, Thomas Griffiths, ei fusnes yn 1875. Roedd y busnes bychan bryd hwnnw yn cynnig gwasanaeth saer coedynghyd ag ymgymeryd ac fe aeth y fenter yn ei blaen gyda'i fab, David John Griffiths wrth y llyw.

Gyda'r genhedlaeth nesaf daeth ei ddau fab ef, Hywel a Lyn Griffiths yn ymgymerwyr, yn bennaf ar gyfer ardaloedd Betws, Garnswllt a'r pentrefi cyfagos yn y gymdogaeth. Trwy gydol ei oes faith fe weithiodd Hywel yn ddiwyd i ddatblygu ac yn tyfu i weini i Ddyffryn Aman.  Mae Peter Griffiths wedi ymroddi i'r gwreiddiau a sefydlwyd gan Hywel i ddatblygu'r fusnes i'w llwyddiant presennol.

Yn 1990 ymunodd Richard Williams gyda'r cwmni fel ymgymerwr angladdau. Tyfodd y cwmni yn fwy wedyn a chymryd yr enw Cwmni Griffiths Bwtrimawr Y Betws er mwyn gwasanaethu Dyffryn Aman ar ei hyd, trwy ei gysylltiadau gyda chwmni Keith Morgan a'i Feibion (Glanaman), ardal Gwaun Cae Gurwen trwy Evan Rees a'i Feibion ac ardal Llandeilo trwy gwmni Douglas Davies.

Yn 1999 gwelwyd y bumed genhedlaeth o'r teulu'r Griffiths yn cymryd eu lle yn y cwmni pan ymunodd mab Peter Griffiths, sef Rhodri Hywel Griffiths. Roedd Rhodri wedi derbyn prentisiaeth eisoes pan yn gweithio ar gangen adeiladol y cwmni. Wrth ymuno â'r gangen o ymgymerwyr parhaodd yntau yn y traddodiad teuluol o fod yn un newydd eto yn y cenedlaethau o seiri coed a fu yn y teulu.

Yn 2001 dechreuodd Lowri Griffiths, merch Peter, weithio yn y fusnes.

Erbyn 2022 ymunodd Catrin Griffiths, merch hyna Peter â'r cwmni fel ymgymerwraig. Ac yn ystod 2023 mae wyr hynaf Peter, Iwan, yn ymuno â'r fusnes.


When John and Elizabeth Griffiths relocated from Llangunnor, near Carmarthen, to Betws in the Amman Valley, on the edge of the developing South Wales coalfield, their son Thomas Griffiths established the business in 1875.

The small carpentry, joinery and undertaking business continued with his son David John Griffiths and continued in to the next generation when sons Hywel Griffiths and Lyn Griffiths become well known builders, undertakers and carpenters serving primarily Betws, Garnswllt and villages adjoining Ammanford. Throughout his long working life Hywel Griffiths strived to develop the business and it continued to grow as funeral directors serving Ammanford and the Amman Valley. Peter Griffiths has dedicated himself to the roots established by Hywel to develop the business to its current success.

In 1990 Richard Williams joined the company as a funeral director. The business further progressed as Cwmni Griffiths Bwtrimawr Y Betws to serve the whole of the Amman Valley and Llandeilo through it's associations with Keith Morgan and Sons, Evan Rees and Sons and Douglas Davies, Llandeilo.

1999 saw the company enter the 5th generation of the family when Peter Griffiths' son, Rhodri Hywel Griffiths joined the company. Rhodri is now a funeral director with Griffiths Bwtrimawr having previously served his apprenticeship on the construction side of the company. In joining the funeral side of the business Rhodri maintained the tradition of each generation being carpenters and joiners.

In 2001, Lowri Griffiths, Peter's daughter joined the company. 

By 2022 Catrin Griffiths, Peter's eldest daughter joined the company as a funeral director, and during 2023 Iwan, Peter's eldest grandson will be joining the family run team.

EVANS REES & SONS - GCG

funeral-car-hearse-hire-home

Gwaun Cae Gurwen

Evans Rees & Sons
98 Heol Cae Gurwen
Gwaun Cae Gurwen
SA18 1PD

Tel: 01269 822206



Amdanom Ni

Fe sefydlwyd y cwmni fel siop groser yn 1900 ar Stryd y Gât, Gwaun Cae Gurwen. Daeth y busnes i gael ei alw yn Siop y Gât oherwydd ei leoliad, cafodd ei adeiladu ar sylfeini’r hen dollborth.

Tyfodd y busnes a phrynwyd y lori gyntaf yn 1930 pan gymerodd y cwmni yr enw Evan Rees a’i Feibion, Garej Siop y Gât. Yn ychwanegol at hyn roedd hurio ceir a cherbydau i Ddyffryn Aman yn rhan bwysig o’r busnes.

Erbyn 1935 roedd y busnes wedi datblygu ac wedi prynu ei hers gyntaf ar gyfer ymgymerwyr lleol unigol ar y cychwyn. Ond erbyn y 50au fe ddechreuodd y cwmni drefnu angladdau i wasanaethu’r ardal.

Parhaodd hyn hyd 2008 pan ymunodd gyda chwmni Hywel Griffiths a’i Feibion, gan alluogi Kim Jenkins (Rees gynt) i allu dal ymlaen i ddarparu gwasanaeth personol i rannau uchaf Dyffryn Aman.

About Us

Founded in 1900 as a grocery shop in Gate street, Gwaun Cae Gurwen, the business became known as Gate shop due to being built on the foundations of the toll gate.

The business expanded and purchased its first lorry in 1930 and become known locally as Evan Rees and Sons, Gate Shop Garage. In addition to this the business also provided the Amman Valley with wedding and hackney cars.

By 1935 the business further expanded by purchasing the first hearse in the Amman Valley. Initially the hearse was to provide independent village undertakers, however by the 1950’s the company began proving funeral services to the Amman Valley.

Evan Rees and Sons continued to provide its services to the Amman Valley and in 2008 joined Hywel Griffiths and Sons, enabling Kim Jenkins (nee Rees) to continue to provide a personal service to the Amman Valley.

KEITH MORGAN & SONS - GLANAMMAN

inside right 3

Glanamman

Keith Morgan & Sons
40A Cwmamman Road
Glanamman
SA18 1DJ

Tel: 01269 822179



Amdanom Ni

Fe ddechreuodd y teulu hwn gyda’i draddodiad o ymgymeryd angladdau yn 1959 pan, fel M.F. Harries a’i Fab, fe huriwyd ganddynt hers a cheir angladdol i ymgymerwyr lleol.

Datblygodd y busnes ac yn 1974 cychwynwyd ar y busnes o ymgymeryd angladdau o’u swyddfa ar Ffordd Cwmaman, Glanaman. Roedd ganddynt Gapel Gorffwys yno.

Cynigwyd gwasaneth i ardal Dyffryn Aman ac fel y tyfodd y busnes cymerwyd yr enw Keith Morgan a’i Feibion yn 1988. Codwyd adeiladau pwrpasol a datblygwyd y safle yn 40A Ffordd Cwmaman, Glanaman.

Parhaodd y traddodiad teuluol pan ymunodd y cwmni gyda chwmni Hywel Griffiths a’i Feibion yn 2005 ac yn dal i gyflwyno gwasanaeth personol i ardal Dyffryn Aman.

About Us

The family business began it’s involvement in funeral directing locally in 1959, when as M.F. Harries and Son a hearse and limousines were provided to independent village undertakers.

The business developed and in 1974 began arranging funerals from a premises at Cwmamman Road, Glamamman which included a chapel of rest.

Service to the Amman Valley continued as the business evolved to become Keith Morgan and Sons in 1988, with new purpose built premises later being developed at 40A, Cwmamman Road, Glanamman.

The family tradition continued when Keith Morgan and Sons joined Hywel Griffiths and Sons in 2005, to continue providing a personal service to the Amman Valley.

HYWEL GRIFFITHS - PONTARDDULAIS

Hywel-Griffiths-Bwtrimawr-Pontarddulais

Pontarddulais

Hywel Griffiths Pontarddulais
Capel Y Bont
Oakfield Street
Pontarddulais
SA4 8LN

Tel: 01792 885626




Amdanom Ni

Agorwyd Capel y Bont, Pontarddulais yn 2014. Mae’r capel wedi ei lleoli o fewn tir Eglwys Gymunedol Bont Elim. Mae gan Capel Y Bont cyfleusterau llawn ac yn caniatáu gofal o fewn eich cymuned.

About Us

Opened in 2014, Capel Y bont, Pontarddulais is set within the grounds of Bont Elim Community Church, Oakfield Street. Capel Y Bont has full facilities and allows your loved ones to be cared for within their own community.

DOUGLAS DAVIES - LLANDEILO

griffiths-bwtrimawr-funeral-directors-ammanford

Llandeilo

Douglas Davies Llandeilo
39 Betws Road
Ammanford
SA18 2HE

Tel: 01269 593637



Amdanom Ni

Mae Cwmni Griffiths Bwtrimawr yn falch iawn i barhau’r gwasanaeth a roddwyd gan Douglas Davies yn Llandeilo a’r cylch.

Gellir cysylltu â Chwmni Douglas Davies ar 01269 593637.

About Us

Cwmni Griffiths Bwtrimawr are pleased to be able to continue the service provided by Douglas Davies in Llaneilo and the surrounding villages.

Douglas Davies Funeral Directors can be contacted on 01269 593637.











Latest Obituaries & Tributes

Griffiths Bwtrimawr would like to extend our deepest sympathies to the caring families and friends.

Nia Catrin Davies (Sgwâr)

Passed away on:
20-06-2026

Yn dawel ddydd Sadwrn 20fed o Fehefin yn Nghartref Melbourne House, Cross Hands, hunodd Nia, o Hendy.

Merch annwyl Nelda a’r diweddar Iwan, chwaer ffyddlon y ddiweddar Rhian a gwelir ei cholled yn fawr gan ei theulu a’i ffrindiau oll. 

Angladd ddydd Gwener 17eg o Orffennaf, gwasanaeth yn Amlosgfa Llanelli am 1.00 y prynhawn.

Blodau’r teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir tuag at ‘Melbourne House Care Home’ drwy law y Trefnwyr Angladdau, Hywel Griffiths a’i Feibion, Capel y Bont, Oakfield Street, Pontarddulais, SA4 8LN neu drwy’r ddolen Just Giving.


Sadly on Saturday 20th June at Melbourne House Care Home, Nia of Hendy passed away. 

Much loved daughter of Nelda and the late Iwan, devoted sister of the late Rhian, and will be sadly missed by all her family and friends. 

Funeral on Friday 17th July, service at Llanelli Crematorium at 1.00pm. 

Family flowers only. Donations in lieu, if so desired to ‘Melbourne House Care Home’ kindly received by the Funeral Directors, Hywel Griffiths and Sons, Capel y Bont, Oakfield Street, Pontarddulais, SA4 8LN or via the Just Giving link.

Eunice Maureen Greenway (Maureen)

Passed away on:
15-05-2026

Sadly on Friday 15th May 2026, at Hengoed Court Care Home, Maureen formerly of Llangyfelach, Swansea, passed away. 

Beloved wife of the late Alan, loving mother of Vivienne, Neil and Stephen, much loved mother-in-law of Clifford, Heather and Joanne, cherished grandmother of Scott and his wife Beth, Andrew and his partner Sam, and Zoe and an adored great grandmother of Finley and Nina.

Funeral on Monday 22nd June. Service at Llanelli Crematorium at 1:00pm.

Family flowers only. Donations in lieu, if so desired, to ‘Dementia UK’ will be kindly received by Hywel Griffiths & Sons, Funeral Directors, Capel Y Bont, Oakfield Street, Pontarddulais, SA4 8LN.

News Board

No New Found

Griffiths Memorials

Memorial service

Celebrating Lives,
Embracing Memories

Griffiths Memorials is a caring, family run business with a strong reputation for providing and fitting beautiful memorials as a lasting tribute to your loved one.

 Contact Griffiths Memorials here - https://griffithsmemorials.com/ 

With over 100 years experience in the construction trade and over 25 years in the monumental trade, Griffiths memorials offer sympathetic advice on choosing the right memorial, inscription and design.

We will guide you each step along the way in providing a fitting and lasting memorial to your loved ones. We will also advise on the restoration and renovation of existing memorials with all the work being carried out to the highest standard by BRAMM accredited staff.